Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-05-940

Teitl y ddeiseb: Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo

Geiriad y ddeiseb:Roedd erthygl a gyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2018 yn nodi bod 178,000 o lawdriniaethau yng Nghymru wedi’u canslo yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf (2016-2018), 70,000 oherwydd rhesymau anghlinigol. Cafodd 90,000 eu canslo yn 2017/18.

Yn 2012 bu farw fy mab. Cafodd ei roi ar y rhestr aros am driniaeth tonsilectomi brys ym mis Medi 2011. Canslwyd y llawdriniaeth gyntaf oherwydd nad oedd gwely HDU ar gael, a gwnaethom ni ganslo’r ail a’r trydydd gan nad oedd Dylan yn ddigon da. Cafodd y pedwerydd llawdriniaeth, sef yr olaf, ei ganslo oherwydd nad oedd gwely HDU ar gael, ac roedd y driniaeth hon i fod i ddigwydd y diwrnod y bu farw.

Daeth ymchwiliad i’r casgliad pe bai wedi cael y llawdriniaeth y byddai wedi gwella’n llwyr. Rydym bellach yn prysur agosáu at bron i ddegawd ers ei farw, a rhoddodd bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro sicrwydd imi fod newidiadau wedi’u rhoi ar waith. Mae wedi dod yn amlwg o ystyried y ffigurau eithriadol o uchel hyn nad oes unrhyw beth wedi newid.

Galwaf ar Vaughan Gething, a Chynulliad Cymru i roi newidiadau ar waith i sicrhau bod nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo yn cael ei lleihau’n ddramatig. Yn bersonol, rwy’n credu bod y ffigurau hyn yn ffiaidd.

Y cefndir

Daw’r wybodaeth am lawdriniaethau wedi’u canslo a ddyfynnwyd gan y deisebydd o erthygl newyddion a gyhoeddwyd ar WalesOnline ym mis Medi 2019. Mae’r erthygl honno yn ei thro wedi’i seilio ar ffigurau gan fyrddau iechyd lleol (BILl) yng Nghymru a ddaeth i law drwy gais Rhyddid Gwybodaeth gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru.

Gwnaeth BMA Cymru ymateb i’r ffigurau ar y pryd, gan honni bod tanariannu, niferoedd annigonol o staff a gwelyau ysbyty, yn ogystal â bylchau mewn rotas staff wedi cyfrannu at nifer y llawdriniaethau a oedd wedi’u canslo, gan alw am y datrysiad a ganlyn (Saesneg yn unig): ‘a funding solution that provides appropriate numbers of beds, invests in more staff and takes into account the rising demands on the NHS in order to provide patients with the level of care they expect and deserve’.

Ni chaiff gwybodaeth am nifer y llawdriniaethau sydd wedi’u canslo (y cyfeirir atynt fel Triniaethau Derbyniedig wedi’u Gohirio) yng Nghymru ei hadrodd na’i chyhoeddi fel mater o drefn, naill ai ar lefel bwrdd iechyd lleol neu ar lefel Gymru gyfan. Fodd bynnag, caiff y ffigurau hyn eu casglu bob mis gan fyrddau iechyd lleol a’u cyflwyno i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae’r ffigurau ar gyfer byrddau iechyd lleol unigol hefyd wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau perfformiad sy’n cael eu trafod yng nghyfarfodydd bwrdd y byrddau iechyd lleol, er nad yw’r cyfarfodydd hyn o reidrwydd yn digwydd yn fisol.

Mae Tabl 1 isod yn dangos cyfanswm nifer y Triniaethau Derbyniedig wedi’u Gohirio a’r rhesymau dros ohirio:

Tabl 1: Cyfanswm y Triniaethau Derbyniedig wedi’u Gohirio, GIG Cymru

 

 

Cymru gyfan

Rheswm dros ohirio

2015/16

2017/18

2018/19

2019/20 (Gweler y nodyn)

Clinigol

9,450

9,361

10,179

7,445

Anghlinigol

33,982

38,278

37,120

31,295

Claf

41,067

42,525

43,363

31,677

Cyfanswm

84,499

90,164

90,662

70,417

Ffynhonnell: Data gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Nodyn: Mae’r data ar gyfer 2019/20 yn cynnwys y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2019

Nodir bod triniaeth wedi’i gohirio os na fydd yn digwydd ar y dyddiad a bennwyd.  Gellir gohirio triniaeth o’r dyddiad y cafodd y claf yr apwyntiad cychwynnol (a allai fod dair wythnos neu fwy cyn i’r driniaeth ddigwydd) hyd y diwrnod y disgwylir i’r driniaeth ddigwydd.

Mae categorïau’r rhesymau dros ohirio triniaethau fel a ganlyn:

·         Clinigol: mae’r rhain yn cwmpasu’r triniaethau hynny a ohiriwyd gan y bwrdd iechyd am resymau fel ysbyty sy’n nodi bod y claf yn sâl, claf sy’n anaddas ar gyfer llawdriniaeth ddydd, neu glaf nad yw’n dilyn y canllawiau cyn cael llawdriniaeth;

·         Anghlinigol: mae’r rhain yn cynnwys triniaethau a ohiriwyd gan y bwrdd iechyd am resymau fel diffyg gwely, offer neu staff, neu oherwydd bod triniaethau sy’n uwch ar y rhestr yn rhedeg yn hwyr;

·         Claf: mae’r rhain yn cynnwys sefyllfaoedd lle nad yw’r claf yn dod, lle nad yw’r claf ar gael neu’n sâl, neu glaf sy’n dweud nad yw’n dymuno cael triniaeth mwyach.

Nid yw pob triniaeth a ohiriwyd yn arwain at golli slot, gan fod cleifion ar restrau rhybudd byr fel arfer yn gallu dod i mewn i lenwi’r slot penodol hwnnw. Hefyd, pan fydd claf yn gohirio triniaeth oherwydd nid yw ar gael, gall hyn fod hyd at dair wythnos cyn i’r driniaeth ddigwydd. Bydd y slot hwnnw wedyn yn cael ei gynnig i’r claf nesaf ar y rhestr sydd ar gael ar y dyddiad penodol hwnnw.

Mae Tabl 2 yn dangos nifer y derbyniadau dewisol i’r ysbyty (nad ydynt yn achosion brys) ym mhob un o’r blynyddoedd a ganlyn:

Tabl 2: Cyfanswm y derbyniadau dewisol, GIG Cymru

 

2015/16

2017/18

2018/19

2019/20 (Gweler y nodyn)

Cyfanswm

334,340

330,170

342,002

187,280

Ffynhonnell: Data gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Nodyn: Mae’r data ar gyfer 2019/20 yn cynnwys y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2019

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb

Yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb, mae’r Gweinidog yn cydymdeimlo â’r ffaith bod y deisebydd wedi colli ei mab ac yn cydnabod y cyfnod anodd y mae hi a’i theulu wedi’i wynebu.

Mae’r ymateb hefyd yn cydnabod y gofid y gall canslo triniaeth a drefnwyd ei achosi i glaf, gan wneud y pwyntiau a ganlyn:

·         Dylai unrhyw glaf y mae ei lawdriniaeth wedi’i gohirio gan yr ysbyty ar fwy nag un achlysur am resymau anghlinigol gyda llai nag wyth diwrnod o rybudd gael ei lawdriniaeth o fewn 14 diwrnod neu cyn gynted ag y bo modd;

·         Mae gan fyrddau iechyd lleol yng Nghymru darged i ostwng nifer y gohiriadau ar fyr rybudd 5 y cant o flwyddyn i flwyddyn;

·         Pan fydd ysbytai yn gohirio llawdriniaethau, dylai hyn bob amser fod yn ddewis olaf a dylai ysbytai flaenoriaethu diogelwch y claf;

·         Mae bron i hanner yr holl ohiriadau a gofnodwyd yng Nghymru yn digwydd am resymau sy’n gysylltiedig â’r cleifion, a ategir gan y ffigurau yn Nhabl 1.

Mae’r ymateb hefyd yn nodi y bydd angen i fyrddau iechyd lleol daro cydbwysedd rhwng anghenion brys yn ystod cyfnodau o bwysau ar wasanaethau iechyd tra’n cynnal ffocws ar ofal arferol nad yw’n cynnwys achosion brys. Felly, bydd staff clinigol yn cynnig triniaeth ar sail anghenion clinigol pob claf, gan asesu’r difrifoldeb a’r brys angenrheidiol.